Yn 1998, treuliodd yr awdur saith mis yn ymweld ag archifau, llyfrgelloedd a meysydd y gad yn America yn ystod ei ymchwil i ddoethuriaeth ar ran y Cymry yn y Rhyfel Cartref.
Yn y gyfrol hon, cawn ei hanes yn cyfarfod nifer helaeth o Gymry o dras Cymreig. Er bod amryw ohonynt wedi’u cymhathu yn Americanwyr ers sawl cenhedlaeth, maent er hynny’n falch o arddel eu cysylltiad Cymreig. Mae hon yn stori bersonol, llawn cameos difyr, yng nghwmni awdur ffraeth a hunan-ddychanol.
Digwyddiadau a chymeriadau’r Rhyfel Cartref sy’n penderfynu llwybrau’r misoedd hynny. Daw’r hanes yn fyw – hanes sy’n dal i siarad gyda ni heddiw.
“Mewn ystyr ehangach, roedd [Rhyfel Cartref America] yn frwydr dros y syniadau am ryddid, cydraddoldeb a rôl y llywodraeth – cwestiynau sy’n cael eu hadleisio hyd heddiw. Ac roedd y Cymry dros eu pennau a’u clustiau yn rhan o’r holl hylabalŵ yma. Fy rôl i oedd datguddio eu stori.” – Huw Griffiths
This book traces a journey the author undertook over a period of seven months in 1998, when he visited archives, libraries and battlefields across America while conducting doctoral research on the Welsh in the Civil War.
"Sinopsis" puede pertenecer a otra edición de este libro.
Ar ôl dros ugain mlynedd o fod yn athro hanes mewn ysgolion uwchradd ac yna ychydig o flynyddoedd fel ymgynghorydd, penderfynodd Huw Griffiths fentro a mynd am swydd uwch ddarlithydd ym Mhrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant. Dechreuodd ailystyried ei waith academaidd – yn fwyaf arbennig ei draethawd doethuriaeth ar ran y Cymry yn hanes Rhyfel Cartref America. Yna, daeth y syniad o gyfuno’r ymchwil academaidd â’i brofiadau personol yn teithio America i greu llyfr newydd lle mae’r hanesydd a’r teithiwr yn cyd-fyw ac yn caniatáu mynegiant i ‘lais boi bach o Gwm-twrch’.
"Sobre este título" puede pertenecer a otra edición de este libro.
Librería: Revaluation Books, Exeter, Reino Unido
Paperback. Condición: Brand New. 254 pages. Welsh language. 5.43x0.55x8.46 inches. In Stock. Nº de ref. del artículo: __1845279913
Cantidad disponible: 2 disponibles